Pwrpas yr adran yma o’n gwefan yw rhoi, pan fo’n bosib wybodaeth eglur a chyflawn ynglyn â ble i ddarganfod:
- Ffynhonnell cymorth
- Eich hawliau o dan y Ddeddfwriaeth Hiliol gyfredol
- Rhoi gwybod am drosedd hiliol ar-lein
Ein Cenhadaeth yw brwydro yn erbyn Hiliaeth
Os ydych yn dod ar draws problem nid yw bob amser yn hawdd gwybod beth i’w wneud, ble i fynd neu wrth bwy i ddweud am y broblem. Mae’r asiantaethau statudol yn chwarae rhan fawr yn ein bywydau i gyd, addysg, awdurdodau lleol, tai, cyfiawnder troseddol ac iechyd a.y.b. felly rydym wedi darparu cyswllt uniongyrchol i’r safleoedd hyn. O bryd i’w gilydd efallai y byddwn hefyd angen gwybod am fewnlifiad, cyflogaeth a’n hawliau yn gyffredinol.
Trwy gyfrwng y cysylltiadau rydym wedi eu darparu gallwch gael mynediad i dros 500 o sefydliadau a grwpiau cefnogi yn lleol, yn rhanbarthol ac ar draws y DU sy’n darparu cefnogaeth, arweiniad a chyngor i unigolion a grwpiau Croenddu a Lleiafrif Ethnig .
Mae NWREN yn gwerthfawrogi eich sylwadau ac awgrymiadau ar gyfer gwella'r cynnwys a defnyddioldeb y safle yma. I roi eich sylwadau neu eich argymhellion , please Cysylltu â ni