North Wales Race Equality Network

Ffynonellau Cymorth - Cyflogaeth -Gwahaniaethu

Beth allaf wneud os gwahaniaethir yn fy erbyn?

Nid chaniateir i gyflogwr wahaniaethu ar y seiliau canlynol:

Hil, (mae hyn yn golygu lliw, hil, tarddiad cenedligrwydd neu ethnig) gweithiwr cyflogedig neu weithiwr cyflogedig arfaethedig.

Mae deddfwriaeth wrth- wahaniaethol yn berthnasol i bob sefyllfa gwaith ac mae Deddf Cydraddoldeb Hiliol 1976 yn ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn person, yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol ym maes cyflogaeth.

Mae gwahaniaethu uniongyrchol yn cynnwys ymdrin â pherson, ar sail hiliaeth, yn llai ffafriol nag yr ymdrinnir â rhai eraill neu y gellid ymdrin â rhai eraill yn yr un, neu amgylchiadau tebyg.

Mae diffiniad gwahaniaethu anuniongyrchol yn gymhleth ac ni fydd yn cael ei egluro yn llawn ym mhob adran perthnasol o’r côd.

Ni all cyflogwr ychwaith erlid gweithiwr cyflogedig am ddod â chwyn ynglyn â gwahaniaethu gerbron neu roi tystiolaeth yng nghyswllt cwyn a ddaw gerbron gan weithiwr arall.

Gall materion cyflogaeth penodol fod yn gymhleth. Mae’n bwysig sylweddoli y gall eich hawliau gwaith fod yn wahanol yn dibynnu ar delerau eich cyflogaeth e.e. gwaith sesiynol, cytundeb cyfnod penodol, visa gwaith myfyriwr a.y.b.

Mae’r adran yma o’r safle yn canolbwyntio ar bolisïau gwrth wahaniaethol, hawliau cyflogaeth, rheolau cyflogaeth a mynediad at ffynonellau gwybodaeth a chyngor.

Cysylltiadau defnyddiol yw:

Bydd y Comisiwn dros Hawliau Hiliol yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am agweddau cyfreithiol gwahaniaethu.

Efallai y gall Advisory, Conciliation and Arbitration Service (Acas ) eich cynorthwyo i ddatrys rhai anghydfodau. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar eu safle. .

Mae’r canlynol yn safle BBC ddefnyddiol ac ynghyd â safle ACAS mae’n ymdrin â hawliau Diswyddiad annheg a gweithrediadau.

Mae gan y DTI safle sy’n ymdrin â holl agweddau cydraddoldeb ac amrywiaeth a hefyd deddfwriaeth hil a ffydd.

Gall y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol roi gwybodaeth ar wahaniaethu yn y gwaith trwy’r pwynt cyswllt canlynol.

Gwefan yr Undebau Llafur yw hon sy’n eich cysylltu â’r adran ynglyn â hawliau gweithwyr:

Cofiwch gallwch bob amser gael gwybodaeth a chyngor o’r Comiswin Gwasanaethau Cyfreithiol a gan Y Ganolfan Gynghori