North Wales Race Equality Network - Criminal Justice
Ffynonellau Cymorth - Cyfiawnder Troseddol - y Gwasanaeth Carchar

Beth yw Gwasanaeth Carchar?

Mae’r Gwasanaeth Carchar wedi ei seilio ar ddwy swyddogaeth syml a gynhelir ganddo ar gyfer budd cymdeithas gyfan:

  • i ddal unigolion a draddodir gan y llysoedd mewn amgylchedd diogel a thrwy hynny warchod y cyhoedd.
  • ti leihau trosedd trwy hyrwyddo ymddygiad ufudd i’r gyfraith mewn gwarchodaeth, a darparu gweithgareddau cynhyrchiol sy’n ailsefydlu ac addysgu unigolion sy’n barod i gael eu rhyddhau.

Er mwyn sicrhau fod y swyddogaethau hyn yn cael eu cyflawni yn effeithiol mae Arolygiaeth Carchardai ei Mawrhydi sy’n uniongyrchol atebol i’r Swyddfa Gartref , yn cynnal oddeutu 20 archwiliad carchar llawn yn flynyddol. Yn ychwanegol mae’r Ysgrifennydd Cartref yn apwyntio Ombwdsman Carchardai sydd â’i swyddogaeth i wrando ar gwynion carcharorion nad oedd modd eu datrys trwy ddefnyddio gweithdrefnau mewnol.

Dosbarthir troseddwyr oddi fewn i un o bedwar categori diogelwch A, B, C neu D. Mae’r categorïau hyn yn egluro difrifoldeb trosedd yr unigolyn a’r risg a wynebir gan y cyhoedd petai ef neu hi yn dianc.

Troseddwyr categori A yw’r carcharorion mwyaf peryglus y byddai eu dianc yn achosi bygythiad anferthol i’r cyhoedd a’r genedl.

Mae carcharorion categori B yn achosi llai o fygythiad i’r cyhoedd, ond maent yn parhau i fod yn ddigon peryglus i warantu lefelau eithaf uchel o ddiogelwch.

Ystyrir bod troseddwyr categori C yn ddiffygiol o ran y sgiliau neu'r awydd i ddianc felly fe’u hystyrir yn fygythiad minimal i’r cyhoedd. Gelwir y carcharorion sy’n weddill, y rhai nad ydynt yn achosi risg i’r cyhoedd ac sydd yn annhebygol o ddianc yn Categori D

Cedwir carcharorion A, B ac C yn yr hyn a elwir yn garchardai ‘Caeedig’ ac fe gedwir carcharorion Categori D mewn carchardai ‘Agored’ Nid yw carcharorion benywaidd neu droseddwyr ifanc (unrhyw un o rhwng 15 a 20 mlwydd oed) yn cael eu categoreiddio fel yr oedolion gwrywaidd sy’n troseddu.

Ble allaf ddarganfod am ymweld ag unigolyn sydd mewn carchar?

IOs ydych eisiau olrhain rhywun y credwch y sydd mewn gwarchodaeth carchar ond ddim yn gwybod ymhle yn union y mae, mae gwasanaeth a elwir yn Wasanaeth Lleoli Carcharor wedi ei ddatblygu i’ch helpu.

Ni leolir unrhyw garchar yng ngogledd Cymru ond fe allwch ddefnyddio'r Gwasanaeth Lleoli Carcharor uchod i ddarganfod ble y cedwir y person.

  • Lleoliad carchar

Unwaith yr ydych wedi llwyddo i ddod o hyd i’r carchar yr oeddech eisiau, edrychwch ar ochr chwith y dudalen ble y gwelwch gyswllt ynglyn â gwybodaeth ymweld. Bydd hwn yn rhoi manylion lleoliad, amseroedd ymweld a rhifau cyswllt ffôn.

Nid ydwyf erioed wedi ymweld â charchar beth ydw i yn ei wneud?

Mae gan Wasanaeth Carchar EM ganllaw ymwelydd ar-lein gyda gwybodaeth am amseroedd ymweld, sut i drefnu ymweliad a phethau eraill sydd efallai o ddiddordeb.

Action for Prisoners' Families yw ffederasiwn cenedlaethol o wasanaethau sy’n cefnogi teuluoedd carcharorion. Maent yn gweithio i hyrwyddo triniaeth gyfiawn o deuluoedd carcharorion gan y system carchar a chymdeithas ar draws y DU. Mae’n annog datblygiad ac yn gweithredu fel llais ar gyfer sefydliadau sy’n darparu cefnogaeth ar gyfer y teuluoedd hyn.