North Wales Race Equality Network
Sut y Gallwn Helpu? – Ffynonellau Cymorth – Gwasanaethau Cynghori

Gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth

Os oes gen i broblem ble mae fy mhwynt cyswllt?

Er fod yna ystod eang o wasanaethau cynghori ar gael yn genedlaethol ac oddi fewn i ogledd Cymru, nid yw bob amser yn hawdd i ddarganfod pwy all ymdrin â’ch problem pendol chi orau.

Un o amcanion yr adran yma yw:

  • rhoi gwybodaeth ymarferol, dibynadwy, cyfredol ar flaenau eich bysedd
  • cynnwys ystod eang o bynciau
  • cyfeirio at ffynonellau dibynadwy o gyngor pan fyddwch angen rhagor o wybodaeth
  • cynnwys y DU ond canolbwyntio ar ogledd Cymru

Rydym wedi dewis meysydd y teimlwn a fuasai o ddefnydd mwyaf i chi ac ychwanegu cyfeiriadur cyffredinol o Wasanaethau Cynghori. Rydym wedi ceisio bod mor gryno â phosib gyda’n cyflwyniadau gan ganolbwyntio ar roi dolenau cyswllt i chi gael mynediad haws at y wybodaeth. Ble’n bosib rydym wedi cynnwys cysylltiadau lleol, manylion cyswllt ac oriau agor.