North Wales Race Equality Network
Sut y gallwn helpu? - Ynglyn â Hiliaeth

Mae NWREN yn y safle unigryw o fod yn gysylltiedig â’r ystod ehangaf o rwydweithiau Croenddu a Lleiafrif Ethnig yng Ngogledd Cymru. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r rhan fwyaf o sefydliadau sy’n gallu bod o gymorth i unigolion sydd â materion neu broblemau sy’n berthnasol i CLlE.

Gallwch gysylltu â ni neu gallwch ddefnyddio ein gwefan i gysylltu â’r holl ffynonellau cymorth yr ydym yn eu disgrifio

Yn yr adran arbennig yma byddwch yn dod o hyd i gysylltiadau â gwybodaeth ar Hiliaeth yn cynnwys diffiniadau o Wahaniaethu Hiliol ac Aflonyddu Hiliol ac hefyd Ffynonellau Cymorth eraill a fydd yn ddefnyddiol i chi.

Digwyddiad hiliol yw unrhyw ddigwyddiad a ystyrir yn hiliol gan y dioddefwr neu unrhyw berson arall.

Mae’r profiad o hiliaeth wedi dod yn rhan o brofiad dydd i ddydd yng nghyswllt rhai pobl croenddu a lleiafrif ethnig yng ngogledd Cymru. I raddau helaeth mae pobl yn ystyried digwyddiadau o gael eu gwneud i deimlo yn wahanol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd cymdeithasol a lleoliadau yn arferiad, ac mewn rhai achlysuron fe’u disgwylir.

Mae gwahaniaethu ac aflonyddu a seilir ar hil neu grefydd yn anghyfreithlon. Nid oes yn rhaid i chi ddioddef camdriniaeth hiliol neu grefyddol.

 

Beth yw digwyddiad hiliol?

“…..unrhyw ddigwyddiad a ystyrir yn hiliol gan y dioddefwr neu unrhyw berson arall.”

(ffynhonnell; argymhelliad 16 adroddiad archwiliad Stephen Lawrence)

Beth yw digwyddiad crefyddol?

“…….unrhyw ddigwyddiad a ystyrir i gael ei ysgogi gan grefydd neu ffydd grefyddol gan y dioddefwr neu unrhyw berson arall”

Gallasai enghreifftiau o ddigwyddiadau hiliol/crefyddol gynnwys :

  • graffiti hiliol neu unrhyw sarhad ysgrifenedig arall
  • sylwadau hiliol yn ystod trafodaethau
  • gwrthod cyd weithio gyda phobl eraill oherwydd eu tarddiad ethnig
  • galw enw dirmygus, sarhad, ‘jôc’ ac iaith hiliol a dwyn malais
  • gwawdio gwahaniaethau diwylliannol neu grefyddol unigolyn e.e. bwyd, cerddoriaeth, gwisg, iaith a.y.b.
  • Vfandaliaeth neu niwed i eiddo a ysgogir gan hiliaeth.

Ni roi’r gwybod am y rhan fwyaf o ddigwyddiadau hiliol/crefyddol. Mae hyn yn rhwystro gweithredu effeithiol. Rydym angen gwybod y nifer , math ac ystod y digwyddiadau hiliol yng Ngogledd Cymru. Fe ddengys hyn i ni ble mae’r problemau a’n cynorthwyo i ymgyrchu am wellhad yn y gwasanaethau sy’n ymdrin â digwyddiadau hiliol. Gadewch i ni wybod am bob digwyddiad hiliol os gwelwch yn dda , hyd yn oed y rhai nad ydynt yn ymddangos yn ddifrifol er mwyn ein cynorthwyo gydag ein gwaith

Sut allaf roi gwybod am ddigwyddiad?

Os ydych wedi profi neu yn ymwybodol o rywun sydd wedi profi digwyddiad hiliol/crefyddol yna gadewch i ni wybod.

Gallwch roi gwybod am y digwyddiad trwy ddefnyddio'r ffurflen cynnig gwybodaeth ar-lein . YoGallwch roi gwybod am ddigwyddiad pa un ai ydych yn ddioddefwr, tyst neu yn drydydd parti sydd wedi dod yn ymwybodol o’r digwyddiad. Nid oes yn rhaid i chi gydnabod pwy ydych, ond os ydych eisiau i ni gysylltu â chi mae’n hanfodol eich bod yn gadael rhif cyswllt neu gyfeiriad. Cewch roi gwybod am ddigwyddiad hyd yn oed os nad oes gennych yr holl wybodaeth sydd angen ar y ffurflen, oherwydd gall unrhyw wybodaeth y gallwch ei roi fod yn werthfawr.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Os ydych chi yn rhoi gwybod am ddigwyddiad byddwn yn ei gofnodi ar gyfer rhesymau ystadegol yn unig. Os ydych eisiau cymorth i weithredu gallwn eich cyfeirio at ffynonellau cymorth. Ni fyddwn yn rhoi manylion personol amdanoch i unrhywun, yn cynnwys yr heddlu nac unrhyw sefydliad arall cyn gofyn i chi yn gyntaf. Pan weithredir yn gyfreithiol fel canlyniad i’r digwyddiad gall y gofynnir i chi roi tystiolaeth.