Erledigaeth
Fe gymerwyd y dyfyniad canlynol o’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol:
O dan Ddeddf Cydraddoldeb Hiliol 1976 ystyrir erledigaeth ar sail hiliol fel gwahaniaethu uniongyrchol oherwydd ei fod yn cynnwys ‘colled’ mewn cyflogaeth neu mewn ffordd y mae gwasanaeth yn cael ei darparu.
Mae rheolau hil yn gwneud erledigaeth ar sail hil neu darddiad ethnig neu genedlaethol yn weithred anghyfreithlon, ar wahân. Bydd hyn yn digwydd pan fydd person A yn amharchu person B gydag ymddygiad di groeso ar sail hil neu darddiad ethnig neu genedlaethol gyda’r pwrpas neu’r effaith o :
- halogi urddas; neu
- greu amgylchedd brawychus, gelyniaethus, diraddiol a sarhaus ar gyfer B
Bydd erledigaeth ar sail lliw neu genedligrwydd yn parhau i gael ei drin fel gwahaniaethu uniongyrchol posibl o dan Ddeddf Cydraddoldeb Hiliol 1976.
Fel y bydd y diffiniad statudol newydd o erledigaeth yn adlewyrchu’r gyfraith fel y’i defnyddir yn gyfredol yn y llysoedd a’r tribiwnlysoedd mae’n annhebyg y bydd y newid a gyflwynir gan y rheolau hil yn cynyddu ystod yr amgylchiadau lle ceir cwynion am erledigaeth. Fodd bynnag dylid nodi dau newid i’r gyfraith.
Nid yw'r diffiniad newydd o erledigaeth angen cymharydd oherwydd nid yw yn ffurf o erledigaeth ond gweithred anghyfreithlon ar wahân.
Bydd y prawf pa un ai yw ymddygiad yn golygu erledigaeth yn un gwrthrychol- prawf y person rhesymol. Barnwyd hyn oherwydd ei fod yn gosod prawf uwch na’r un a ddefnyddir gan y llysoedd a’r tribiwnlysoedd.
Er enghraifft ni fydd angen i weithiwr Asiaidd a elwir yn ‘boy’ gan y rheolwr ddangos y byddai gweithiwr gwyn yn derbyn triniaeth wahanol. Fodd bynnag os yw rheolwr yn galw pob gweithiwr yn ‘boy’ yna fe fyddai angen i’r gweithiwr Asiaidd wneud yn eglur fod ymddygiad y rheolwr yn gwneud iddo deimlo ei fod yn cael ei erlid.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan Gomisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol