Beth yw Gwahaniaethu?
Fe gymerwyd y dyfyniad canlynol o’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol :
Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb Hiliol yn ymwneud â gweithrediadau pobl ac effaith eu gweithrediadau, nid eu barn neu eu cred. Nid yw gwahaniaethu hiliol yr un peth â rhagfarn hiliol neu ‘hiliaeth’.
Yn llythrennol mae rhagfarn yn golygu rhag farnu rhywun- gan wybod dim amdanynt ond yn ffurfio casgliadau oherwydd rhyw nodwedd, fel eu hymddangosiad.
Hiliaeth yw’r gred fod rhai ‘hiliau’ yn uwchraddol i eraill- yn seiliedig ar y syniad ffug bod nodweddion corfforol gwahanol (fel lliw croen) neu gefndir ethnig yn gweud rhai pobl yn well nag eraill.
Mae gwahaniaethu yn digwydd pan fod rhywun yn cael ei drin yn llai ffafriol ar sail eu lliw, hil, cenedligrwydd neu darddiad cenedlaethol neu ethnig. Nid oes yn rhaid profi fod rhywun wedi bwriadu gwahaniaethu yn eich erbyn: mae’n ddigonol dim ond i ddangos mai canlyniad eu gweithred oedd i chi dderbyn triniaeth llai ffafriol.
Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb Hiliol yn nodi tri phrif fath o wahaniaethu hiliol
- Gwahaniaethu hiliol uniongyrchol (yn cynnwys aflonyddu)
- Gwahaniaethu hiliol anuniongyrchol
- Erledigaeth
Gwahaniaethu hiliol uniongyrchol
Mae hyn yn digwydd pan allwch ddangos eich bod wedi cael eich trin yn llai ffafriol ar sail hiliol na rhai eraill mewn amgylchiadau tebyg. I brofi hyn, buasai o help petaech yn gallu rhoi enghraifft o rywun o gr?p hiliol gwahanol, a gafodd, mewn amgylchiadau tebyg, ei drin/thrin yn fwy ffafriol na chi. Mae camdriniaeth hiliol ac aflonyddu yn ffurfiau o wahaniaethu uniongyrchol. Os oes rhywun wedi dioddef aflonyddu ar sail hil neu darddiad cenedlaethol neu ethnig, ystyrir hyn fel ymddygiad digroeso o dan y Ddeddf Cydraddoldeb Hiliol.
Mae’r gyfraith yn ystyried hyn i gael yr effaith o halogi urddas y person hwnnw, neu o greu amgylchedd brawychus, gelyniaethus, diraddiol a sarhaus ar gyfer y person hwnnw.
Gwahaniaethu hiliol anuniongyrchol
Gall gwahaniaethu anuniongyrchol ddisgyn i un neu ddau gategori. Mae’r cyntaf ar sail lliw neu genedligrwydd; mae’r ail yn seiliedig ar hil, tarddiad ethnig neu genedlaethol.
Ar sail lliw neu genedligrwydd
Mae hyn yn digwydd pan ydych chi neu bobl o’ch gr?p hiliol yn llai tebygol o allu cydymffurfio â gofyniad neu amod a phan na ellir cyfiawnhau'r gofyniad ar sail hiliol..
You will need to show that a considerably smaller proportion of people of your colour or nationality would be able to meet the requirement or condition compared to people not of your colour or nationality. You would also need to show that you have suffered less favourable treatment as a result.
For example, a rule that employees or pupils must not wear headgear could exclude Sikh men and boys who wear a turban, or Jewish men or boys who wear a yarmulka, in accordance with practice within their racial group.
Ar sail hil, tarddiad ethnig neu genedlaethol
Cyflwynodd Rheolau Hil 2003 criteria llai ymdrechgar ar gyfer gwahaniaethu hiliol ar sail hil, tarddiad ethnig neu genedlaethol.Mae gwahaniaethu o’r math yma yn digwydd pan fo darpariaeth, criteria neu ymarfer yn cael ei osod ar bawb, ond sydd yn un sy’n achosi anfantais arbennig i bobl o’r un hil neu darddiad ethnig neu genedlaethol. Fe fydd yn rhaid i chi ddangos eich bod wedi dioddef anfantais fel canlyniad, ac na ellir dangos fod y ddarpariaeth yn fodd cyfatebol o gyflawni amcan cyfreithlon.
Erledigaeth
Mae gan hwn ystyr cyfreithiol arbennig o dan y Ddeddf Cydraddoldeb Hiliol. Mae’n digwydd os ydych yn derbyn triniaeth llai ffafriol oherwydd eich bod wedi cwyno ynglyn â gwahaniaethu hiliol, neu wedi cefnogi rhywun sydd wedi derbyn triniaeth llai ffafriol.
Mae rhagor o fanylion ar gael gan y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol