Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil Gogledd Cymru
Wedi ei sefydlu yn 2000 mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru (NWREN) yn bodoli i herio gwahaniaethu hiliol, hyrwyddo cytgord hiliol a gweithio tuag at gydraddoldeb cyfle ar gyfer poblogaeth Croenddu a Lleiafrif Ethnig (CLlE) yng Ngogledd Cymru.
Asiantaeth ymbarel yw NWREN sy'n cynnwys unigolion CLlE o ystod eang o gefndiroedd (e.e. Affro Caribļaidd, Indiaid, Bangladeshiaid, Tsieiniaid, Filipiniaid, Scandinafiaid, rhai o orllewin a dwyrain Ewrop, Gwyddelod, Cymry a Saeson.) Mae NWREN hefyd yn cynnwys sefydliadau cymunedol oddi fewn i'w gorff llywodraethol yn cynnwys Mudiad Filipino, Ysgol Tsieineaidd, Gr?p Merched Tsieineaidd, SHEKINA, Mudiad Cymunedol Bangladeshi, Canolfannau Diwylliannol Islamaidd Cefnogaeth Busnes Ethnig a Chanolfan Gynghori Cymru.
Cefnogir datblygiad a thwf Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru gan ystod o asiantaethau statudol yn cynnwys Awdurdodau lleol, Ymddiriedolaethau GIC a Gwasanaethau Ambiwlans a Thān a Heddlu Gogledd Cymru a'r ystod ehangaf o Sefydliadau Gwirfoddol a grwpiau ar draws yr ardal.
Gallwch chi hefyd ddod yn aelod o’r grwp yma o bobl a sefydliadau ymroddedig. Os ydych yn dymuno cefnogi ein amcanion cliciwch yma ac fe gewch yr holl wybodaeth fyddwch ei angen.
Dyma ein Datganiad o Fwriad a'r gwerthoedd sy'n arwain y ffordd yr ydym yn gweithredu.
1. Datganiad o Fwriad
Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru yn bodoli er mwyn herio gwahaniaethu hiliol o unrhyw ffurf, fel eu profi'r gan bobl Croenddu a Lleiafrif Ethnig: i hyrwyddo cytgord hiliol rhwng unigolion a chymunedau yng Ngogledd Cymru; ac i weithio tuag at gydraddoldeb cyfle.
2. Gwerthoedd
- Ymroddiad ac ymrwymiad i wneud cydraddoldeb yn realiti
- I fod yn foesegol a gweithredu gyda gonestrwydd; ceisio bod tu hwnt i edliwiad
- Gwerthfawrogi amrywiaeth oddi fewn ac ar draws y sefydliad ac ein cymunedau
- Coelio mewn cyfathrebu tryloyw, agored ac onest
- Gweithredu fel sefydliad cyd-gefnogol, cynwysedig, cofleidiol
- Cydnabod a gwerthfawrogi cyfraniad pob person
- Gweithio fel un tīm