Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil Gogledd Cymru (NWREN) yn ei 10fed blwyddyn erbyn hyn, ac yn archwilio’r posibilrwydd o ddiwygio ei gyfansoddiad, o un sydd â ffocws cydraddoldeb sengl, i sefydliad aml elfen rhanbarthol. Bydd NWREN yn ymgeisio dod â rhwydwaith o sefydliadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ynghyd sy’n gweithio ar draws maes cydraddoldeb.
Trwy ddod â phobl sy’n ymwneud ag ystod o elfennau cydraddoldeb, a’r sector cynghori i gyd weithio, rydym yn cynyddu ein dealltwriaeth o ystod eang o faterion yn ymwneud â chydraddoldeb a datblygu ffyrdd newydd o wneud y gorau o’r cyfleoedd
Gyda’i gilydd gall NGO weithio tuag at fwriad unedig i herio rhagfarn sy’n tanio trosedd atgasedd; rhoi terfyn ar wahaniaethu- wedi ei seilio ar oedran, anabledd, rhyw, a nodi rhyw, hil, crefydd neu gredo, tueddfryd rhywiol, neu unrhyw gyfuniad o’r rhain.
Gyda hyn mewn golwg, mae NWREN wedi sicrhau swm bychan o arian gan EHRC i ymgymryd â chyfres o ymgynghoriadau â sefydliadau cydraddoldeb o’r sectorau statudol a gwirfoddol, ac ar draws yr elfennau cydraddoldeb. Atodir allbynnau’r ymgynghoriad hwn isod
Nid yw’n rhy hwyr i ddylanwadu’r broses yma – Os hoffech roi eich sylwadau ar y cynnig hwn cysylltwch â ni os gwelwch yn dda ar 01492 622233 neu trwy ebost ar info@nwren.org
Symiant o faterion perthnasol yng nghyswllt tri ymgynghoriad
Ni wnaethpwyd unrhyw ymdrech i bortreadu’r materion hyn mewn unrhyw fodd positif neu negyddol. Os ydych yn teimlo bod unrhyw faterion sylweddol wedi’u hanwybyddu buasem yn ddiolchgar petaech yn cysylltu â ni.
- Mae’r trydydd sector yn cynnwys ystorfa o sgiliau arbennig ac arbenigedd nad ydynt ar gael mewn unrhyw le arall. Mae’r wybodaeth ddealledig yn adnodd na all y sector statudol, y sector preifat a chymunedau Gogledd Cymru fforddio i’w cholli. Fodd bynnag, ymddengys bod cyfleoedd ar gyfer ariannu elfen sengl yn lleihau. Heb eu gwneud eu hunain yn agored i fusnes aml elfen gall y bydd llawer o sefydliadau trydydd sector yn peryglu eu dichonoldeb yn anfwriadol.
- Mae yna werthfawrogiad y buasai cynlluniau cydraddoldeb sengl, wedi’u selio ar fodel cydraddoldeb sengl a ddiffiniwyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn mynd i’r afael yn well ag achosion o wahaniaethu lluosog ac ymdrin yn well â deallusrwydd cymdeithas yng nghyswllt yr hunaniaethau lluosog y gall un unigolyn gyfanheddu.
- Mae potensial i gynyddu cyfleoedd ar gyfer partneriaeth traws elfen sy’n gweithio rhwng sefydliadau cydraddoldeb y trydydd sector, ac i wirioneddol fynd i’r afael ag anghenion unigolion, yn enwedig felly’r rhai hynny sydd ar hyn o bryd, yn disgyn trwy fylchau yn y ddarpariaeth gwasanaeth.
ch) Roedd pryderon y gallasai edrych ar gydraddoldeb trwy ddefnyddio
safbwynt cydraddoldeb sengl greu rhwystr rhag mynd i’r afael ag anghenion unigol pob elfen. Ni ddylai unrhyw newid arwain trwy amryfusedd at ami hierarchaeth cydraddoldeb, ac fe ddylai newidiadau sicrhau llais cyfartal ar gyfer pob elfen.
d) Gall sefydlu mas critigol o sefydliadau cydraddoldeb yng Ngogledd Cymru gynnig cyfleoedd ar gyfer grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol i gael llais cryfach mewn proses wleidyddol
- Mae’n bwysig sicrhau nad yw’r sefydliadau trydydd sector sy’n cynrychioli lles elfennau cydraddoldeb unigolyn golli gwybodaeth arbenigol am eu helfen. Mae’n rhaid cynnal y rhwydweithio eang sy’n eu galluogi i gyrraedd gwerinwyr ac unigolion ‘anodd cyrraedd atynt’
- Gall nifer o leiafrifoedd ddod yn fwyafrif bychan a all fod yn bwli”. Mae cydbwysedd a chyfiawnder unrhyw bartneriaeth(au) weithiol/gweithiol yn hanfodol i unrhyw waith ar y cyd effeithiol a’i sefydlogrwydd a’i gynaladwyedd tymor hir.
- Mae gan NWREN gylch gwaith ar draws gogledd Cymru. Mae’n frand cydnabyddedig gyda hanes gwerthfawr. Mae ei rwydweithiau sefydledig a’i hygrededd yn y farchnad cydraddoldeb yn sylfaen gref ar gyfer datblygu ac esblygu.
- Pe byddai’r sefydliadau sector gwirfoddol a’r unigolion ffiniol y maent yn eu cynrychioli yn ffurfio unrhyw fath o bartneriaeth gyfartalwch ar draws Gogledd Cymru. bydd annibyniaeth, perchnogaeth ac ymddiriedaeth yn y bartneriaeth yn hanfodol i unrhyw lwyddiant. Mae perchnogaeth eang o’r broses yn hanfodol.
- Mae’r sialens o gofleidio’r holl elfennau cydraddoldeb yn dasg sefydliadol anferth. Bydd yn gofyn am ymrwymiad, consensws a hygrededd busnes. Mae gan hyn goblygiadau amlwg yn nhermau’r angen ar gyfer cynnydd mewn gallu a chynaladwyedd yn y tymor hir.
ng) Dylid dysgu gwersi gan sefydliadau sydd eisoes wedi mynd i’r afael â’r
materion a’r paramedrau o gyfuno’r holl elfennau cydraddoldeb a’r
adrannau yn un.
- Mae cyfansoddiad NWREN eisoes yn cofleidio’r egwyddorion sy’n tanategu y gellir cyflawni hawliau dynol a throi tuag at gyd weithio aml elfen fesul cynyddiad.
- Lleoliad canolog ble bydd yn bosib creu cydsafiad a chyd ddealltwriaeth ac i ddod yn eiriolwyr ar gyfer y naill a’r llall heb golli golwg ar arbenigedd penodol.
- Os nad yw strwythur y sefydliad mewn cytgord â’i bwrpasau craidd a’r amgylchedd y mae wedi ei selio arno, yna mae’n annhebygol y bydd yn goroesi. Dylid ystyried strwythurau sefydliadol mwy newydd, cymhleth, ymaddasol
- Mae hyblygrwydd ac ymaddasolrwydd yn hanfodol wrth ystyried
fframwaith unrhyw sefydliad newydd.
- Darpariaeth adeilad aml bwrpas gyda gofod wedi ei rannu i wasanaethu cymunedau a chymunedau diddordeb ynghyd â’r NGO i weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth. Dylai’r ganolfan hefyd gynnig lleoliad canolog gyda darpariaeth cyngor, arweiniad a chyfeirio ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth ac fe fyddai hefyd yn ased pwysig ar gyfer agenda cydraddoldeb yng Ngogledd Cymru.